Home

PromEUregion: blas ar Ewrop

promEUregion

"Blas ar Ewrop", mae'n swnion bron yn farddol. Rydym i gyd yn gyfarwydd gyda Boursin Ffrengig, Bertolli Eidalaidd, Guinness Gwyddelig... Ond faint ohonom all ddweud eu bod wedi blasu "lentejas" traddodiadol o Valladolid yn Sbaen yn ddiweddar? Neu wedi yfed llymaid o Slivovica, gwirod o Buchlov yng Ngweriniaeth Tsiec?
Dyma'n union y mae "PromEUregion", prosiect rhyng-genedlaethol Leader+, yn ceisio ei wneud - rhoi'r cyfle i'r cyhoedd ddod i wybod am gynhyrchion fferm a chynhyrchion lleol o ranbarthau gwahanol ac amrywiol cefn gwlad yn Ewrop, ac felly, rhoi gwybod am yr hunaniaethau lleol.
Nid oes rhaid i chi edrych ymhellach na'r rhestr hirfaith o bartneriaid y prosiect i weld pa mor heintus yw'r syniad - mae cymaint â 10 o ardaloedd Leader ledled Ewrop gyfan wedi ymgymryd i wireddu amcanion y prosiect hwn. O Sbaen i Lwcsembwrg, o Weriniaeth Tsiec i Gymru,... bydd yn bosib profi a mwynhau cefn gwlad ym mhob un o'r lleoedd hyn!