|
Project partners
Pajottenland-Belgium
Pajottenland - Gwlad Belg
Cafodd Pieter Bruegel, y peintiwr Ffleminaidd o gyfnod y Dadeni sy'n enwog am ei olygfeydd o werinwyr a thirweddau bythgofiadwy, lawer o'i ysbrydoliaeth o'r ardal rydym yn ei adnabod bellach fel Pajottenland.
Fel y gwnaeth ef, darganfyddwch y chwe chymuned cyfagos, sef Bever, Galmaarden, Gooik, Herne, Lennik a Pepingen. Fel y gwnaeth ef, dewch i ymweld â'r baradwys bantiog a gwledig yn Brabant Ffleminaidd, tua'r de orllewin o'r brif ddinas Ewropeaidd, Brwsel. Cerddwch ar hyd y llwybrau troellog wrth ymyl nentydd bychain a thrwy ddyffrynnoedd llawn coedwigoedd.
Dilynwch lonydd gwledig gyda'u gwrychoedd pigog, edrychwch dros giatiau ar y pridd clai ffrwythlon wedi'i amgylchynu gan boplys a helyg. Perllannau taclus o afalau, gellyg a ffrwythau bychain, yn cynhyrchu eu suddion naturiol eu hunain. Heb anghofio'r cwrw ffrwythau Ffleminaidd adnabyddus a wneir o geirios, mafon ac eirin gwlanog. Mae cwrw a fragir drwy eplesiad naturiol fel Lambik, Geuze a Kriek yn parhau i gael eu bragu yn y rhanbarth.
Mae llawer iawn o gynhyrchion rhanbarthol a chynhyrchion fferm eraill fel "mattentaarten" (tartled felys flasus), cawsiau caled a meddal o Bever, caws gafr o Gooik, siocled o Bever a Gooik a jenever, y gwirodydd cryf a bythgofiadwy o Lennik, wedi'i ddistyllu o aeron meryw.
Siopiwch yn y marchnadoedd ffermwyr wythnosol yn Gaasbeek, Gooik, Kester ac Oetingen a blasu gwir flasau cefn gwlad.
Mae cynhyrchion fferm gyda label "Pajot" ar gael mewn pedwar siop leol yn Lennik, Pepingen, Bever ac Oetingen.
Yn y "Baljuw House" yn Galmaarden mae cyfle i flasu cynhyrchion rhanbarthol a chynhyrchion fferm bob blwyddyn.
Mae gwreiddiau ceffyl gwedd "Brabant" yma ac maent yn parhau i gael eu bridio yn Vollezele a Lennik.
Dewch i weld yr hanes amaethyddol hwn, ac ymweld â'r melinau gwynt a dwr yn nyffrynnoedd Mark. Mae melin wynt Hertboom yn Onze Lieve Vrouw Lombeek a melin wynt Pede yn Sint Gertrudis Pede yn rhai unigryw.
Mae ffermydd "sgwâr" fel Hof ter Reist yn Heikruis a Fferm Bree yn Lennik a llawer iawn o ffermydd diddorol eraill ar agor i ymwelwyr.
Mae'r castell prydferthaf i'w weld yn Gaasbeek. Mae'r tapestrïau, y gwaith panel, y darnau celf a'r dodrefn prydferth yn werth eu gweld. Ar ôl i Mr Serclaes, dinesydd sifil Brwsel gael ei lofruddio (1388), ymosododd pobl Brwsel ar y castell a'i roi ar dân. Cafodd y cywion ieir i gyd eu dwyn, ac felly y cawsant y llysenw "bwytawyr cyw iâr". Mae planhigion yn yr ardd a driniwyd yn ôl dulliau cynnar yr 20fed ganrif heb wybod am dechnegau modern heddiw. Uchafbwyntiau'r ardd yw'r coed ffrwythau, sydd o bosib ymysg y rhai mwyaf yn y byd.
Mae mannau eraill gwerth eu hymweld yn cynnwys y "Kartuizersklooster" yn Herne, 101 o gapeli yn Bever. Cewch gyfle i brofi gwreiddiau cerddoriaeth gwerin Ffleminaidd yn Gooik yn yr wˆyl werin "Gooikoorts" flynyddol.
Mae "Muziekmozaiek" yn trefnu cwrs hyfforddi blynyddol, ac mae tua 300 o bobl yn cymryd rhan ynddo.
Rhowch gynnig ar yr hen gêm fowlio a llawer iawn o gemau gwerin eraill.
Mwynhewch deithiau cerdded Llychlynnaidd yn Pajottenland, teithiau cerdded sy'n rhoi dimensiwn ychwanegol i ymarfer corff i bawb o bob oed.
Ymlaciwch yn ystod y daith gerdded, y beicio neu farchogaeth ceffylau drwy'r cyfoeth o fywyd diwylliannol a gwledig. Os ydych yn dymuno, gallwch hyd yn oed ofyn am dywysydd i wneud eich ymweliad yn fwy diddorol.
Mewn geiriau eraill, blaswch Pajottenland a mwynhau'r prydau bwyd a baentiwyd gan Bruegel: hot pot gyda selsig, stiw gyda Geuze a sglodion.
Dewch o hyd i lety gwledig mewn fferm neu gaffi gwerin sy'n cynnig bwyd lleol mewn pentref. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn: www.pajottenland.be
|