Project description

promEU.net

Ymgyrch 3: PromEU.net

DATBLYGU A GWEITHREDU STRATEGAETH GYFATHREBU ARLOESOL AR Y CYD AR GYFER YR AMRYWIAETH O BROSIECTAU A DDATBLYGWYD

Mae rhan derfynol y prosiect yn cynnwys datblygu strategaeth hyrwyddo a chyfathrebu ar y cyd sy'n seiliedig ar yr egwyddorion a ganlyn:

- undod: egwyddor sylfaenol y strategaeth yw y bydd yr amrywiol ardaloedd sy'n cymryd rhan yn hyrwyddo ei gilydd drwy egwyddor undod. Y bwriad yw bod preswylwyr rhanbarth benodol, nid yn unig yn dod i wybod am eu cynhyrchion fferm a'u cynhyrchion rhanbarthol eu hunain, ond hefyd yn dod i wybod am y cyfoeth amrywiol o gynhyrchion fferm a chynhyrchion lleol sydd ar gael o ranbarthau eraill.
Yn ogystal â hyn, bydd ardaloedd sy'n cymryd rhan mewn pecyn "Llwybr 25" mewn rhanbarth benodol yn cael digon o wybodaeth atyniadol am y posibiliadau a gynigir mewn ardaloedd partner eraill ar gyfer cymryd rhan mewn pecynnau profiad tebyg. Mae gan bob un o'r rhain yr un cysyniad hefyd ac maent yn bodloni'r un meini prawf o ran safon.

- ychwanegolrwydd: Mae'r gwaith o hyrwyddo cynhyrchion fferm a chynhyrchion lleol mewn rhanbarth benodol fel arfer yn nwylo canolfan groeso rhanbarthol neu VVV. Wrth drafod y prosiect hwn, dylai partneriaid y prosiect hwn geisio cyflawni gwaith ar y cyd â'r cyrff hyn i ddechrau. Ar yr un pryd, dylent hefyd weithio yn ychwanegol at y sianeli cyfathrebu arferol hyn, gan ganolbwyntio'n bennaf ar weithredu'r egwyddorion undod a nodir uchod. Tra bod yr awdurdodau twristiaid rhanbarthol yn canolbwyntio'n bennaf ar hyrwyddo eu rhanbarth eu hunain, bydd partneriaid y prosiect hwn yn ychwanegu at hyn drwy hyrwyddo amrywiaeth o brosiectau am yr ardaloedd partner eraill.

- ansawdd: rhaid i'r strategaeth gyfathrebu gyflawni'r gofynion ar gyfer ansawdd uchel hefyd gyda'i hoffer a'i dyfeisiau. Dyma'r unig ffordd y gellir pwysleisio natur ddethol ac ansawdd y pecynnau profiad sy'n cael eu cynnig.

- defnyddio technolegau newydd: wrth weithredu'r strategaeth gyfathrebu, bydd technolegau newydd yn cael eu defnyddio cymaint ag y bo modd. (E.e. cyfathrebu dros y rhyngrwyd, rhaglenni cronfeydd data a thechnolegau newydd eraill).