Project description

Llwybr 25

Ymgyrch 2: Llwybr 25

promEUregion

DATBLYGU PECYNNAU PROFIAD YN SEILIEDIG AR GYNHYRCHION FFERM A CHYNHYRCHION LLEOL A HUNANIAETH LEOL.

Bydd pecynnau profiad yn cael eu datblygu ym mhob un o'r ardaloedd sy'n cymryd rhan, a phob un a'r bwriad o hyrwyddo cynhyrchion fferm a chynhyrchion lleol ac amlygu hunaniaeth ranbarthol yr ardal dan sylw.

Bydd y pecynnau hyn yn cael eu llunio mewn perthynas â chysyniad a ddatblygwyd ar y cyd o'r enw "Route Rurale" sy'n bodloni'r gofynion a ganlyn:

- amlygu'r hunaniaeth ranbarthol: pan fydd y pecynnau yn cael eu llunio, rhaid i'r ardaloedd sy'n cymryd rhan drosi hunaniaeth draddodiadol y rhanbarth benodol i ddimensiwn profiadau.

- bod yn arloesol ac yn unigryw: wrth ddatblygu'r pecynnau, rhaid bod yn greadigol er mwyn sicrhau bod modd gwahaniaethu pob pecyn o'r pecynnau "arferol" sy'n cael eu datblygu'n barhaus. Bydd modd cyflawni hyn, yn bennaf drwy greu cyfuniadau arloesol o'r profiadau sydd eisoes yn bodoli, ac felly llwyddo i greu pecynnau unigryw.

- bod yn unigryw: wrth ddatblygu pecynnau, rydym yn anelu at grwpiau targed y mae modd eu disgrifio fel "ceiswyr gwerth ychwanegol". Felly, yn amlwg, nid ydym yn dewis pecynnau a fyddai'n gweddu i gategori "prif faes twristiaeth", ond yn hytrach, byddai'n well gennym ddewis pecynnau sy'n cynnig profiadau unigryw. Dylem lwyddo i greu adenillion economaidd sylweddol i'r rhanbarth drwy wneud hyn.

Mae'r pecynnau profiad yn rhai modiwlaidd, ond, fodd bynnag, mae ganddynt strwythur tebyg sy'n golygu eu bod yn hawdd i'w hadnabod.

Y modiwlau hyn yw:

- Cynhyrchion fferm a / neu gynhyrchion lleol
- Un neu fwy o lwybrau beiciau a / neu gerdded
- Llety mewn ardal wledig
- Ymweliadau ychwanegol posib
- Digwyddiadau cefn gwlad

Er bod elfennau profiadau amrywiol eisoes yn cael eu trefnu yn yr ardaloedd sy'n cymryd rhan a allai fod yn berthnasol i gysyniad fframwaith "Llwybr 25", mae elfennau ar goll mewn rhai ardaloedd sydd angen eu hychwanegu er mwyn cyflawni'r gofynion a nodwyd yng nghynnwys y pecyn profiadau.
O ganlyniad i hynny, mae'r prosiect hwn yn rhoi'r cyfle i'r ardaloedd sy'n cymryd rhan i ddatblygu'r elfennau hyn o brofiadau sydd ar goll.

Mae'r ymgyrch hon hefyd yn rhagweld, ymysg pethau eraill, y bydd modd creu pwynt cyswllt ar gyfer pob un o'r ardaloedd hyn. Mae'r pwyntiau cyswllt hyn yn angenrheidiol ar gyfer cydlynu'r prosiect lleol, ac er mwyn ei reoli a'i ddatblygu. Bydd y prosiect cyfan, o gwestiwn cyntaf yr ymwelwyr hyd at, ac yn cynnwys y bil terfynol, yn gweithredu drwy'r pwynt cyswllt hwn.
Bydd y gwaith o drefnu'r pwyntiau cyswllt hyn yn amrywio o ardal i ardal. Fodd bynnag, rhaid i'r pwyntiau cyswllt fodloni gofynion penodol hefyd er mwyn i'r broses gyfan gael ei chydlynu ac er mwyn sicrhau bod dilyniant ar ddiwedd y prosiect.

Bydd gweithredu'r prosiect, a'i barhad ar ddiwedd cyfnod y prosiect yn cael ei weithredu drwy'r rhwydwaith o'r pwyntiau cyswllt hyn.