|
Project partners
Valladolid Norte - Sbaen
Valladolid Norte - Sbaen
Grwp Gweithredu Lleol yw Valladolid Norte, a ffurfiwyd gan 40 o bentrefi, sy'n ymdrechu gyda'i gilydd i fodloni targed cyffredin.
Ein dau brif nod yw amrywio'r cynhyrchion fferm lleol a hyrwyddo ein marchnad fwyd.
Mae Valladolid Norte yn un o'r rhannau hiraf a gwastataf yn yr Undeb Ewropeaidd. Dim ond 8 unigolyn i bob cilomedr sgwâr yw'r boblogaeth ar gyfartaledd. Villalón a Mayorga de Campos yw'r pentrefi mwyaf gyda phoblogaeth o tua 2,000 yr un. Mae tyfu cnydau a ffermio defaid yn ddau o'r prif weithgareddau.
O safbwynt twristiaid, mae twristiaeth wledig wedi dod yn fwy perthnasol yn y pum mlynedd diwethaf. Mae presenoldeb y Mudéjar Art yn beth arall sy'n denu pobl yma. Gwaith penseiri Mwriaid neu Fwslimiaid oedd yn byw mewn ardal Gristnogol ar ôl y Reconquist (o'r XI i'r XV ganrif) yw'r rhain, na chafodd eu troi i Gristnogaeth.
Mae gennym bedwar o henebion hanesyddol pwysig iawn o'r enw "rollos".
Mae'r treftadaeth colomendai Romanésg yn gwneud ein tirwedd blaen ni'n wahanol ac yn hardd iawn. O ganlyniad i hyn, rydym yn gallu cynhyrchu un o'n bwydydd mwyaf traddodiadol a mwyaf adnabyddus: y golomen ifanc. Mae ar fin cael y marc Label Ansawdd.
Rydym yn falch iawn o ddweud ein bod yn gartref i nifer fawr o adar lleol a ddiogelir (e.e. ceiliog y waun, ceiliog lleiaf y waun, gylfinir y cerrig, ganga ac ortega). Mae'r adar hyn yn nythu ac yn bridio eu cywion ar ein tir.
Mae'n bwydydd ni'n sicrhau nad yw hi'n hawdd i'r twristiaid anghofio eu hymweliadau. Mae rhai o'n prydau blasus yn cynnwys cawl corbys Pardina, stiw colomennod ifanc, cig oen rhost neu fyrddau caws defaid gwych. Mae'r rhain i gyd yn gweddu'n berffaith gyda'n gwinoedd pinc neu winoedd coch.
Yn olaf, mae pererindod Santiago Way yn mynd drwy'r dref ac ymlaen i sawl tref arall fel rhan o The Way of St. James, a elwir yn Jacobean Route hefyd.
PELLTER:
O'r Maes Awyr: 54 cilomedr.
DOLENNI CYSWLLT:
ADRI Valladolid Norte
Rhif ffôn: 0034983761145
Ffacs: 0034983761146
E-bost: adrivall@tierradecampos.com
www.tierradecampos.com
Lenteja Pardina de Tierra de Campos
Rhif ffôn: 0034983751221
E-bost: lentejapardina@tierradecampos.com
Gwefan Villalón de Campos:
www.villalondigital.com
Junta de Castilla y León:
www.turismocastillayleon.com
Rhif ffôn: 0034902203030
|