Project description

Pentref Ewrop

Ymgyrch 1: Pentref Ewrop

promEUregion

Ym mhob un o'r ardaloedd sy'n cymryd rhan, mae cefnogi a hyrwyddo cynhyrchion fferm a chynhyrchion lleol yn ffurfio rhan bwysig o'r gweithgareddau. Mae'r rhan fwyaf o'r ardaloedd hyn eisoes yn cynnal digwyddiadau cefn gwlad, lle bo cynhyrchion fferm a chynhyrchion lleol yn cael eu hyrwyddo. Mae gan yr holl ddigwyddiadau hyn un peth yn gyffredin, sef dod â phobl yn nes at gefn gwlad gweithgar a deinamig sy'n gallu darparu cymaint o brofiadau gwahanol: gweithgareddau hamdden, coginiol, addysgol,... ac o ganlyniad i hyn, maent yn ffyrdd gwych o hyrwyddo cynhyrchion fferm a chynhyrchion lleol.

Un o amcanion yr ymgyrch benodol hon yw dechrau'r gwaith o rwydweithio rhwng trefnwyr digwyddiadau cefn gwlad, wedi'u bwriadu ar un llaw at bobl sy'n byw yng nghefn gwlad, ac ar y llaw arall y rheiny sy'n byw mewn trefi.

Bydd gwersi'n cael eu dysgu wrth ddod â'r profiadau sydd gan bob un o'r trefnwyr gwahanol hyn ynghyd. Gellir dysgu o'r wybodaeth a gaiff ei chyfnewid a fydd yn arwain at welliannau yn ansawdd y digwyddiadau hyn, a gellir diweddaru'r rhain maes o law mewn perthynas â chynaliadwyedd.

Yn ymarferol, gellir ymgymryd â'r gweithgareddau a ganlyn:

- Mae cynhyrchion lleol o bob rhanbarth benodol yn cael eu harddangos yn yr amrywiol ddigwyddiadau. Yn amlwg, bydd posib cydweithio drwy'r cyfnewid hwn a bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn y digwyddiadau amrywiol yn gallu profi cynhyrchion o ranbarthau eraill yn Ewrop hefyd. Yn ymarferol, bydd "Village de l'Ewrop" yn cael ei sefydlu mewn digwyddiad cefn gwlad ym mhob un o'r ardaloedd sy'n cymryd rhan lle bydd cynhyrchion fferm a chynhyrchion lleol yr ardaloedd partner eraill yn cael eu cyflwyno a'u profi.

- Trefnu cynhadledd mewn perthynas â phob un o'r digwyddiadau ym mhob un o'r ardaloedd sy'n cymryd rhan, lle gellir archwilio gwahanol themâu sy'n bwysig i'r cynhyrchwyr cynhyrchion fferm a chynhyrchion lleol ledled Ewrop. Drwy gyfnewid cyfrifoldebau ym mhob un o'r seminarau hyn, bydd modd cyfnewid gwybodaeth hefyd. Bydd cyfnewid syniadau a phrofiadau, ynghyd â'r agwedd ddamcaniaethol, yn cael effaith addysgol arwyddocaol.