|
|
Project partners
100Dörfer-Zukunft - Gwlad Belg
100 Dörfer - 1 Zukunft: projet principal
Portread o Ranbarth
East Cantons Gwlad Belg yw'r enghreifftiau gorau o ymdoddiad o ddau ddiwylliant, Lladin a Germaneg, mewn un rhanbarth. Mae'r rhanbarth ddwyieithog fechan hon yn Nwyrain Talaith Liege yn ardal lle bo'r ddau ddiwylliant yn croesi. Mae gan y gymuned sy'n siarad Almaeneg fwy o ymreolaeth, ac mae ganddi senedd sy'n rheoli ei llywodraeth ei hun; mae Malmedy Wallonia fodd bynnag, yn gartref i gymuned Ffrengig. Heb ystyried eu cysylltiad â gwahanol gymunedau diwylliannol, mae'r High Fens neu'r Hautes-Fagnes, dyffrynnoedd Warche, Our, Göhl, Amel a Weser ynghyd â llynnoedd Robertville, Bütgenbach ac Eupen yn darparu ystod eang o dirwedd naturiol ar gyfer twristiaeth. Yn ddaearyddol, mae'r East Cantons yn cael eu ffinio tua'r Gogledd a'r De gan "Gyffordd T" o ffiniau cenedlaethol. Mae cydweithio'n agos gyda'r Iseldiroedd, yr Almaen a Lwcsembwrg wedi bod yn bwysig iawn ers blynyddoedd lawer bellach.
Mae'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau am yr ardal wedi gwrthod datblygu twristiaeth ar raddfa fawr o blaid cynllunio teithiau tywys. O ganlyniad i hyn, cafwyd cynllun gweithredu mewn cyfrannedd. Gellir crynhoi conglfeini'r polisi hwn fel a ganlyn:
- Twristiaeth o ansawdd (Marchnata gwasanaethau yn hytrach na hysbysebu cynhyrchion enillfawr yn unig);
- Twristiaeth Pedwar Tymor (Rheoli'r galw a chynyddu proffidioldeb busnesau);
- Twristiaeth Teulu (Gweithgareddau hamdden gweithgar mewn amgylchoedd naturiol wedi'u diogelu) a;
- Thwristiaeth Ddiwylliannol (Ymchwilio i wreiddiau natur).
Natur Fyw
Mae Parc Natur Hohes Venn-Eifel (700 cilomedr2) a Chronfa Natur High Fens (Hautes-Fagnes) (sef yr un fwyaf o'i fath yng Ngwlad Belg yn 4,000 hectar) mewn rhyw ffordd yn gwarantu diogelu'r natur a'r amgylchedd, cynnal tirweddau nas cyffyrddwyd yn ogystal ag ansawdd bywyd penodol. Mae'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau ym meysydd gwleidyddiaeth a thwristiaeth, yn ogystal â phreswylwyr East Cantons yn credu yn y gwerthoedd hyn, ac ar yr un pryd, maent yn falch ac yn ffodus o allu rhannu hyn gyda'i gwesteion. Mae rhaglen ar y cyd canolfannau natur Botrange (B), Ternell Eupen (B), Nettersheim (D) a gwahanol sefydliadau sy'n diogelu natur yn cynnig digonedd o weithgareddau sy'n ymwneud â natur: arddangosfeydd o astudiaethau, teithiau, gweithgareddau natur, teithiau cerdded eco-addysgol, arddangosfeydd parhaol a dros dro, gwaith cynnal a gwaith rheoli bïotop, seminarau hyfforddiant, gweithgareddau hamdden addysgol, clybiau i blant, saffarïau - ffotograffiaeth, etc. I gael rhagor o wybodaeth am yr amrywiol weithgareddau hyn, gallwch ymholi yn Swyddfa Dwristiaid East Cantons.
Cerdded lle bynnag a fynnoch
Gyda 40,000 hectar o goedwig, tirwedd naturiol nodedig gyda gwrychoedd, dyffrynnoedd gwyrdd a chopaon nodweddiadol, mae'r East Cantons yn lle gwych i gerddwyr. Mae sefydliadau cerdded a theithio yn trefnu amrywiaeth o deithiau cerdded tywysedig, fel arfer ar ddyddiau Sul, i ymchwilio'r miloedd o gilomedrau o lwybrau cerdded adnabyddus, sy'n addas ar gyfer teithiau i'r teulu cyfan.
Teithiau beicio ar hyd rheilffordd segur St. Vith-Weismes
Mae'n ddiddorol nodi mai dim ond 80m o wahaniaeth mewn uchder sydd yna ar hyd y rhan 17 cilomedr o hyd yma o'i bwynt uchaf (Gorsaf Reilffordd Weismes: 510 m N.N.) i'w bwynt isaf (Montenau: 430 m N.N.), a bydd pawb yn gallu ymdopi â'r graddiannau bychain.
Hefyd, mae'n ddiddorol nodi nad tarmac a ddefnyddiwyd i orchuddio'r llwybr, fel sy'n arferol ar gyfer llwybrau cerdded, ond yn hytrach, cymysgfa o bridd sydd yma. Mae hyn o fantais fawr i loncwyr, ac nid yw'n creu anfantais o gwbl i feicwyr.
Taith Feicio Hohes Venn (High Fens) - Eifel
Yng nghanol yr haf, mae'r llwybr beicio / cerdded ar hyd rheilffordd segur St.Vith - Weismes yn cael ei farcio fel rhan o rwydwaith llwybrau beicio anferthol Hohes Venn - Eifel, sy'n 850 cilomedr o hyd.
Mae hon yn rhwydwaith fel gwe, sy'n cynnwys nifer o gyffyrdd wedi'u rhifo ac sy'n gysylltiedig â'i gilydd.
Mae'r rhwydwaith llwybrau beicio hon yn ymestyn o ffin yr Iseldiroedd i ffin Lwcsembwrg dros ochr gyfan Dwyrain Gwlad Belg (ac felly tu hwnt i'r East Cantons).
Menter gan Swyddfa Dwristiaeth East Cantons a Chymdeithas Twristiaeth Talaith Liege oedd y llwybr beicio, gyda chefnogaeth ariannol gan ranbarth Walloon, cymuned sy'n siarad Almaeneg a Thalaith Liege yn ogystal â'r bwrdeistrefi sy'n rhan o'r rhwydwaith.
Beicio Mynydd
Er gwaethaf tirweddau bryniog yr Eifel a'r Ardennes, mae East Cantons yn lleoliad delfrydol ar gyfer beicio.
Mae mapiau beicio mynydd yn darparu llwybrau drwy ran ddeheuol gyfan East Cantons sy'n gyfanswm o fwy na 600 cilomedr.
Mae llwybrau amlwg drwy goedwigoedd a thrwy gaeau yn parhau i ddenu beicwyr teithiau a beicwyr mynydd yn ôl am deithiau beicio sy'n para sawl diwrnod, ac wrth deithio, maent yn cael nifer o gyfleoedd i werthfawrogi harddwch naturiol yr ardal.
Gwestai Charm
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae gwestai East Cantons wedi bod yn brysurach o lawer. Mae llawer o'r gwestai lleol eisoes yn cael eu hystyried ymysg manteision rhagorol rhanbarth Eifel-Ardennes. Rhoddwyd llawer iawn o sylw i sefydliadau Dwyrain Gwlad Belg, o ganlyniad i amrywiaeth o ddigwyddiadau gwahanol megis penwythnosau hela gastronomegol yn ystod yr hydref a digwyddiadau arbennig dros y Nadolig a Nos Calan, sydd eisoes ag enw da yn rhyngwladol. Yma, mae prydau arbennig o fwyd Ffrengig a lleol yn cystadlu am raddfa rhagoriaeth, ac nid yw hynny yn eich synnu pan fyddwch yn ystyried bod y rhan fwyaf o gogyddion Dwyrain Gwlad Belg yn meddu ar flynyddoedd lawer o brofiad yn nhai bwyta gorau Gwlad Belg.
Mae cymdeithas hysbysebu wedi bod yn gweithio ers 1993 i hyrwyddo atyniadau'r gwestai sy'n cymryd rhan gan ddefnyddio arwyddair "Charm Hotels".
Mae "Charm Hotels" yn croesawu teuluoedd, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn westai bach a chyffyrddus, ac mae ganddynt swyn arbennig oherwydd eu hagosrwydd â natur. Mae rheolwyr gwestai gwybodus yn gwarantu croeso personol iawn ac awyrgylch gyfeillgar dros ben.
Mae'n hawdd iawn dod o hyd i ragor o wybodaeth.
Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am dwristiaeth yn East Cantons?
Dim problem, mae gennych sawl opsiwn:
Mae Llinell Gymorth Dwyrain Gwlad Belg - 080/22 74 74 - ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ac mae'n rhoi gwybodaeth wedi'i recordio am wahanol ddigwyddiadau.
Mae cylchgrawn hamdden "Tourist-Journal", sy'n cael ei gyhoeddi bob chwarter, ar gael am ddim ym mhob llety twristiaeth (gwestai, rhandai etc) yn ogystal ag ym mhob Cymdeithas Dwristiaeth.
Mae llyfrynnau'r amrywiol fwrdeistrefi a rhestrau llety yn Nwyrain Gwlad Belg (gwestai, cartrefi gwyliau, gwersylloedd) yn ffynonellau hanfodol o wybodaeth.
Os ydych chi'n cynllunio taith, gallwch gael y wybodaeth yma, yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol arall yn:
SWYDDFA DWRISTIAETH EAST CANTONS
Mühlenbachstraße 2 - 4780 ST. VITH
Rhif ffôn: 080/22 76 64 - Ffacs: 080/22 65 39
E-bost: info@eastbelgium.com - www.eastbelgium.com
|