Project partners

Bucklov - Gweriniaeth Tsiec

Micro-ranbarth Buchlov

promEUregion

Mae'r micro-ranbarth gwledig yn gyfres o 13 pentref o Moravian Slovácko sydd ar waelod y Chriby.

Mae micro-ranbarth Buchlov yn cynnig amrywiaeth eang o gyfeloedd hamdden. Boed yn weithgareddau chwaraeon yn amgylchedd olygfaol parc naturiol Chriby, digwyddiadau llên gwerin traddodiadol sydd â chyfoeth o hanes, neu ddarganfod henebion hanesyddol, y mae'r tirwedd lleol yn llawn ohonynt, neu ymweliadau i selerau gwin sy'n gysylltiedig â blasu gwinoedd a gwirodydd, sy'n pwysleisio arbenigedd yr ardal hon, mae rhywbeth yma at ddant pawb.

Mae micro-ranbarth Buchlov yn cynnig gwasanaethau o ansawdd uchel i'w ymwelwyr, cyfleusterau llety a nifer fawr o amrywiol atyniadau.

Dewch i ymweld â'n rhanbarth ni.


CASTELL BUCHLOV

Castell gothig y Dadeni
Henebion Diwylliannol Cenedlaethol

Gellir ystyried y castell hwn fel un o gestyll hynaf Moravia. Ceir y cyfeiriad penodol cyntaf iddo yn 1300, fodd bynnag, tybir bod y castell yn bodoli cyn hynny tua ail hanner y 13eg ganrif, gan fod elfennau pensaernïol Romanésg yn y castell yn profi ei darddiad. Yn wreiddiol, efallai mai palas oedd y castell, wedi'i amddiffyn gan ddau dwr a'i amgylchynu gan ragfur. Hyd y 14eg ganrif, y brenin oedd yn berchen ar y castell, fodd bynnag, gostyngodd ei bwysigrwydd ac o'r 15fed ganrif ymlaen, cafodd ei wystlo gan amrywiol berchnogion. Un o'r perchnogion pwysicaf oedd arglwyddi Zahrádka, a adeiladodd yr ochr gogleddol gydag orielau gothig a'r ochr deheuol gyda neuadd y marchogion yn 90au'r 15fed ganrif. O 1511 ymlaen, uchelwyr oedd yn berchen ar y castell. O dan Zástrizls, ar ôl 1544, adeiladwyd cylch newydd o amddiffynfa o'i amgylch ac ar ddiwedd yr 16eg ganrif a dechrau'r 17eg ganrif, adnewyddwyd cryn dipyn ar du mewn y castell. Yn yr 17eg ganrif, ychydig iawn a addaswyd ar y castell.
Y teulu diwethaf i fyw yno oedd y Berchtolds. Fe sefydlont amgueddfa yn y castell ar ddiwedd y 19eg ganrif, fe agoront y castell i'r cyhoedd ac ni fuont yn byw yno ar ôl hynny.
Erbyn hyn, mae'r castell a Chapel St. Barbara ar y bryn cyfagos yn Henebion Diwylliannol Cenedlaethol.


CHATEAU BUCHLOVICE

Castell Baróc a adeiladwyd mewn arddull fila Eidaleg
Henebion Diwylliannol Cenedlaethol

Gan fod y ffordd o fyw yn newid yn ystod y cyfnod Baróc, nid oedd Chateau Buchlov gerllaw yn addas ar gyfer preswylio'n barhaol yno. Felly, comisiynodd Jan Detrich o Petrvald y gwaith o adeiladu Chateau Buchlovice yn 90au'r 17eg ganrif. Ysbrydolwyd adeilad y chateau gan filas Eidaleg a oedd yn gweddu â'r amgylchedd o amgylch. Mae'r adeilad yn cynnwys dau adeilad hanner cylch ar wahân. Mae'r cyntaf, a elwir yn chateau isaf, wedi'i ffurfio i fyw ynddo ac fel cynrychiolaeth. Cwblhawyd yr adeilad tua 1701. Addurnwyd tu mewn i'r chateau gan stwcos (B. Fontana) a phaentiadau. Yn ystod 1710 - 38, adeiladwyd adeilad gyferbyn â'r chateau (chateau uchaf), at ddibenion ffermio. Lluniwyd y parc o amgylch y chateau gan ddefnyddio arddull Eidaleg. Yn ddiweddarach, fe'i newidiwyd gan ddefnyddio arddulliau Ffrengig a Saesneg. Addaswyd y chateau ar raddfa lai yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Ystyrir y chateau fel un o'r filas Baróc puraf o fath Eidaleg yn Moravia.


VELEHRAD

Mae Velehrad yn perthyn i un o'r lleoedd pererindod pwysicaf yn Moravia. Mae'n perthyn yn agos i draddodiad Cyril a Method. Mae defod yr Apostolion Slavig, sydd, ynghyd â St. Benedict yn nawddsaint Ewrop, yn golygu bod Velehrad yn lle sy'n rhagori ar ffiniau ein gwladwriaeth oherwydd ei bwysigrwydd.
Yn ôl darganfyddiadau archeolegol ac ymchwiliadau hanesyddol, gellir cysylltu canol gwleidyddol a gweinyddol Ymerodraeth Moravian a metropolis ei archesgob cyntaf, St. Method, gydag ardal ehangach Uherské Hradiste, Staré Mesto gyda'i amgylchedd a Velehrad.
Mae dechreuad Velehrad fel y mae heddiw yn dyddio'n ôl i ddechrau'r 13eg ganrif, pan sefydlwyd y fynachlog Sistersaidd cyntaf yn Moravia gan y ffinieirll Moravian, Vladislav Jindrich mewn arddull Romanésg gyda dylanwad y gothig cynnar. Cafodd y ganolfan eang, ynghyd â'r lleiandy ‘Church of the assumption of the Virgin Mary' eu cwblhau ym mhedwardegau'r 13eg ganrif.
Mae tu mewn seintwar Velehrad yn fawreddog ac mae'n creu argraff ar ei ymwelwyr. Y pethau mwyaf gwerthfawr yw'r seddi côr Baróc sydd wedi'u cofrestru ar restr UNESCO.
Mae rhan o sylfaeni'r eglwys wreiddiol ar agor i'r cyhoedd yn y lapidari, a adeiladwyd gan godi llawr yr eglwys bresennol yn ystod y gwaith o ail-adeiladu yn ystod y cyfnod Baróc. Tu allan i'r basilica, mae capel gothig o'r enw Cyrilka ac mae ei du mewn wedi'i addasu i ddathlu'r litwrgi dwyreiniol gydag eiconostasis o flaen y prif allor.


ARCHAEO - AMGUEDDFA AWYR AGORED MODRÁ

Sedd gaerog fawreddog Moravian yng nghanol ardal Pomoraví o'r 9fed ganrif.
Archaeo - amgueddfa awyr agored Modrá - Mae sedd fawreddog Moravian yng nghanol ardal Pomoraví i'w gweld yn ymyl Uherské Hradiste ar y ffordd rhwng Staré Mesto a Velehrad. Mae'n bwnc pwysig, sy'n hysbysu un o gyfnodau pwysicaf ein hanes cenedlaethol. Mae'r amgueddfa awyr agored yn parhau gyda'i fywyd pob dydd o berfformiadau addysgol, rhaglenni, profion toddi metelau, cynhyrchu crochenwaith, gwaith cynhyrchu amaethyddol ac mae'n gweithio'n barhaol ar ymchwilio i ddeunydd archeolegol. Dewch i weld ein gorffennol hynafol.
Mae'n amgueddfa archeolegol awyr agored yng nghanol ardal Pomoraví, ac mae copïau o eitemau a ddarganfyddwyd yn cael eu harddangos. Weithiau, arddangosir y ffurfiau gwreiddiol hefyd.
Mae'r ganolfan yn cynnwys nifer o bethau ar gyfer ei ymwelwyr - ty bwyta "Rybárská basta" ac adeiladau'r amgueddfa awyr agored ei hun - Tyrrau gwylio, ty'r magnifico, gweithdai crefftwyr, adeiladau amaethyddol, bynceri preswyl, ty uwchben y ddaear, ysgubor, ffynnon, a phalisâd sy'n ffinio rhan o'r ganolfan.
Mae llawer o bobl yn cael mwynhad o'r ganolfan hon, nid yn unig nifer o dwristiaid ac oedolion, ond mae ysgolion cynradd yn ei fwynhau hefyd oherwydd ei raglenni addysgol ac oherwydd bod yr ardal gyfan yn cael arddangosiadau o "gynhyrchu byw" gan grefftwyr lleol.
Yn ymyl ffin ddeheuol pentref Modrá yn ardal "Na Díle" gwelir Henebion Diwylliannol Cenedlaethol arall - adfeilion eglwys garegog St. John the Baptist o ddiwedd yr 8fed ganrif / dechrau'r 9fed ganrif. Cafodd ei replica ei hadeiladu yn ei ymyl, sydd hefyd yn rhan o'r amgueddfa awyr agored ac mae'n atyniad gwych i dwristiaid sy'n mynd i Velehrad.


AMGUEDDFA CROCHENWAITH TUPESY

Mae'r amgueddfa yn adfywio traddodiad crefft y crochenydd, majolica yn bennaf, a chofnodwyd ei gynnydd yn Rhanbarth Slovácko pan gyrhaeddodd crefftwyr talentog yno yn y 16eg ganrif. Mae cynnydd digyffelyb o gynhyrchu crochenwaith majolica ar ddechrau'r 20fed ganrif yn gysylltiedig â phentref Tupesy. I gloi, mae hefyd yn eich atgoffa o arddull addurno crochenwaith, o'r enw Tupesy Rose, a oedd yn dylanwadu ar arddull addurno crochenwaith drwy ardal eang dros gyfnod o flynyddoedd lawer. Yn y fersiwn wreiddiol, ac ar sawl amrywiad, mae'r arddull hwn o addurno yn parhau i gael ei ddefnyddio hyd heddiw. Drwy'r arddangosfa yn Amgueddfa Crochenwaith Tupesy, rydym yn ceisio canmol yr hen grochenyddion, y mae eu treftadaeth yn parhau mewn dwsinau o grochenwaith a gweithdai crochenwaith ledled yr ardal hyd heddiw.
Mae Amgueddfa Crochenwaith Tupesy i'w ganfod mewn adeilad a oedd yn lleoliad cynhyrchu crochenwaith yn y gorffennol, yng nghanol pentref Tupesy. Mae'n dirnod gwreiddiol o bensaernïaeth gwerin, a addaswyd fel arddangosiad o'r cyfnod - annedd crochenydd, a roddodd dystiolaeth am eu harddull gwaith a'u ffordd o fyw ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif. Mewn perthynas â hyn, mae eiddo arddangos newydd sy'n cadw hanes a thechnoleg crochenwaith majolica yn Tupesy, yn gysylltiedig â'r adeilad. Drwy iard, lle lleolir gweithdai yn yr haf, rydych yn mynd mewn i adeilad arall, lle gwelir gwaith cyfredol y Ceramics Denisa a siop sy'n gwerthu sampl o'r crochenwaith.
Mae'r holl adeiladau yn cael eu dylunio fel bod rhywbeth at ddant pawb yn hanes cynhyrchu crochenwaith, teithiau cyffredinol a theithiau ar gyfer ysgolion, ond maent hefyd yn cael eu defnyddio fel adeilad ar gyfer cynnal digwyddiadau diwylliannol a gweithdai. Yn y dyfodol, rydym hefyd yn bwriadu trefnu ffeiriau crochenwyr neu gyfarfodydd gwahanol waith proffesiynol.
Ar gyfer y bobl hynny sydd â gwir ddiddordeb, rydym yn cynnig y cyfle iddynt gynhyrchu darn o grochenwaith eu hunain neu gyfle iddynt baentio darn o'r fath eu hunain.
Ar ôl ei orffen mewn odyn, gallwch fynd â'r darn gartref gyda chi - efallai fel darn a wnaethpwyd yn bersonol gennych ac yn anrheg gwreiddiol iawn.
Dewch i ddysgu am grefft, sydd yn rhan annatod o hanes pentref Tupesy a'r rhanbarth i gyd!
Gallwch hefyd ddod i ddewis darn o grochenwaith hyfryd - i'w fwynhau yn unig efallai. Rydym yn edrych ymlaen i'ch gweld!

www.keramika-denisa.cz
www.tupesy.cz

Cyswllt:
Micro-region Buchlov
Námestí Svobody 6
687 08 Buchlovice
Rhif ffôn/Ffacs: 572 595 120
e-bost: obec@buchlovice.cz


Canolfannau gwybodaeth:
Tourist Informational Centre Buchlovice
Námestí Svobody 6
687 08 Buchlovice
Rhif ffôn/Ffacs: 572 595 996
e-bost: tic@buchlovice.cz


www.archeoskanzen.cz