Project partners

Cadwyn Clwyd - Cymru

Cadwyn Clwyd - Cymru

promEUregion promEUregion

Mae Cadwyn Clwyd yn grwp gweithredu lleol o dan y rhaglen LEADER+ ac mae'n gweithredu yn ardaloedd Cynghorau Sir Fflint a Dinbych yng Nghymru (DU). Mae Cadwyn Clwyd yn datblygu'r prosiect trawsgenedlaethol hwn fel menter i frandio gweithgareddau a gwyliau gwledig o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd.

Lleolir Bryniau Clwyd tua phymtheg milltir i'r gorllewin o dref Caer yng Ngororau Cymru. O'r bryniau arfordirol uwchben Prestatyn i'r copaon piws wedi eu gorchuddio â grug yn y de, mae Bryniau Clwyd yn creu cadwyn 21 milltir drwy Ddyffryn Clwyd. Yn gorwedd i'r dwyrain ac i'r gogledd o'r brif grib mae dyffrynoedd carreg galch coediog a cheunentydd afonydd Alyn a Chwiler gyda'u creigiau a cherrig brig trawiadol. Y mannau gorau i weld Bryniau Clwyd a'r golygfeydd panoramig dros ddwy wlad ac unarddeg sir mae'n ei gynnig yw Parc Gwledig Moel Famau ac oddi ar Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.

Mae Bryniau Clwyd yn cynnig cyfleoedd ardderchog i gerddwyr tu hwnt i'r Llwybrau Cenedlaethol a thasg gymhedrol hawdd yw archwilio'r dyffrynoedd carreg galch coediog neu'r llethrau rhosdir uchel. Yma ac acw drwy'r dirwedd ceir caerau oes yr haearn, ffermydd canoloesol ac archaeoleg ddiwydiannol yn dyddio o'r 18fed a'r 19eg ganrif.

Mae Bryniau Clwyd yn darparu cyfle gwych i feicio mynydd gyda nifer o wahanol lwybrau syfrdanol ar gyfer y person sy'n chwilio am adrenalin neu ar gyfer y beiciwr teulu.

Mae trefi Rhuthun, Dinbych, Llanelwy a'r Wyddgrug yn gwasanaethu Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd. Mae Rhuthun yn dref pictiwrésg gyda'i gastell carreg goch a siopau hynod. Tref farchnad hanesyddol yw Dinbych sy'n brolio un o'r cestyll Edwardaidd hynaf yng Nghymru. Gwelir Cadeirlan leiaf Cymru yn Llanelwy. Mae tref farchnad Yr Wyddgrug yn enwog drwy'r ardal am y cymeriad arbennig sydd i'r farchnad a'r amrywiaeth a geir yno.