Project partners

Oldambt Westerwolde - yr Iseldiroedd

Oldambt Westerwolde - yr Iseldiroedd

promEUregion

Talaith yng Ngogledd yr Iseldiroedd yw Groningen. Tua'r gogledd mae'n ffinio â Waddenzee ac yn y dwyrain, mae'n ffinio â'r Almaen. Mae'r ardal sydd ar y ffin â'r Almaen yn ardal LEADER; LEADER Oldambt Westerwolde. Mae'n cynnwys naw bwrdeistref: Bellingwedde, Menterwolde, Pekela, Reiderland, Scheemda. Stadskanaal, Veendam, Vlagtwedde ên Winschoten. Gyda'i gilydd mae ganddynt gyfanswm o 154,511 o breswylwyr. Ardal wledig yw Oldambt-Westerwolde yn bennaf, lle'r oedd y rhan fwyaf o'r bobl yn cymryd rhan yn y gweithgareddau gwledig traddodiadol. Ar ôl trosiant cymdeithasol ac economaidd llwyr yn y 1960au, mae'r rhanbarth ei hun yn parhau i ail-gyfeiriannu ei hun ar ei ddyfodol, yn enwedig ar ôl i gwmnïau yn y diwydiant amaeth gau ac oherwydd newidiadau mewn rhaglenni Ewropeaidd.

Mae llawer o amrywiaeth yn y rhanbarth. Drwy deithio ar feic, gallwch ddod o hyd i dirwedd goediog gaeedig, tirwedd agored polder, tirwedd sy'n rhedeg lawr yr arfordir a thirwedd gyda chamlesi syth. Mae gan yr holl ardaloedd eu traddodiadau diwylliannol, eu hanes a'u nodweddion eu hunain.

Mae LEADER Oldambt-Westerwolde yn un o'r 28 ardal LEADER - yn yr Iseldiroedd. Mae'n ceisio cyflawni datblygiad cynaliadwy ac ysgogi twristiaeth yng nghefn gwlad. Pum amcan pwysicaf LEADER yw: (1) atgyfnerthu bywiogrwydd cymdeithasol, (2) datblygu a gofalu am yr amgylchedd naturiol, (3) ysgogi economi rhanbarthol, (4) cyflwyno TGCh mewn ardaloedd gwledig a (5) cryfhau'r gwaith o gydlynu.

Dyma enghreifftiau o brosiectau LEADER yn ardal Oldambt-Westerwolde:

- Dag van de Regio: digwyddiad un diwrnod lle bo'r rhanbarth yn arddangos yr holl atyniadau sydd ganddo ym maes diwylliant, chwaraeon, bwyd, natur etc;
- Keurmerk Westerwolde: marc archwilio ar gyfer cynhyrchion rhanbarthol o Westerwolde;
- Het Blauwe Lint: Mae entrepreneuriaid twristiaeth yn ardal Blauwe Stad wedi uno mewn bond i gydweithio a chyd-hyrwyddo;
- Routeontwikkeling Oost-Groningen: datblygu llwybrau twristiaid newydd a gwella rhai presennol.

Wrth noddi a hyrwyddo'r prosiectau hyn, mae LEADER Oldambt - Westerwolde yn chwarae rôl weithgar yn natblygiad y rhanbarth.