Project partners

The Natural Park Our - Luxemberg

The Natural Park Our - Luxemberg

promEUregion

Mae'r Parc Naturiol Our yng Ngogledd Ddwyrain Lwcsembwrg, ar y ffin gyda'r Almaen a Gwlad Belg. Mae 11 bwrdeistref yn gorchuddio wyneb o 306 cilomedr2 ac mae 14'000 o bobl yn byw yno wedi'u cyd-ffederaleiddio er mwyn dod o hyd i gydbwysedd rhwng cadw natur a datblygu economaidd yn y rhanbarth.

Cafodd yr ardal ei henwi ar ôl yr afon Our, ac mae'r rhanbarth ddeinamig hon yn gyrchfan gwyliau delfrydol i gerddwyr a phobl sydd wrth eu boddau â natur, diwylliant a gastronomeg.

Mae'r Parc Naturiol yn creu argraff gyda'i amrywiol dirweddau. Gall gerddwyr gerdded ar hyd tir gwastad y tirfwrdd neu fynd lawr i'r dyffrynnoedd creigiog rhamantus. Ar y llwyfandiroedd, gallwch ddod o hyd i sawl corstir, sy'n gynefinoedd gwerthfawr ar gyfer nifer fawr o blanhigion a rhywogaethau o adar sydd mewn perygl.

Ond gwir drysor y ffindir hwn yw dyffryn canol Our, sydd i'w ganfod rhwng safle'r tri ffin - lle mae Gwlad Belg, yr Almaen a Lwcsembwrg yn cwrdd - yn Lieler a phentref Dasbourg: am tua 20 cilomedr, mae natur yn cyflwyno ei hun mewn modd pur, heb drafnidiaeth fodur, a chyda thirwedd eithriadol - a bron yn anhysbys. Yma, mae'r ymwelydd yn gallu dod o hyd i ffawna a fflora sydd wirioneddol angen eu diogelu.

Mae hanes a thraddodiadau yn parhau i gael eu cynnal yn yr ardal, a gwahoddir ymwelwyr i gymryd rhan yn y rhain. Mae Amgueddfa'r Mwynglawdd yn Stolzembourg yn dangos hanes cyffrous o echdynnu mwyn copr yn nyffryn Our. Mae'r Amgueddfa Wledig yn Munshausen hefyd werth ei weld; mae'n portreadu bywyd y ffermwyr yn y gorffennol a'r hen dechnegau crefftau.

Mae modd i ymwelwyr weld amaethyddiaeth fodern yno hefyd. Ym Mharc Naturiol Our, mae nifer o brosiectau wedi'u sefydlu i wella sefyllfa economaidd amaethyddiaeth drwy ddatblygu a masnacheiddio gweithdrefnau rhanbarthol. Yn y cyd-destun hwn, mae'n bwysig sôn am y Cornelyshaff yn Heinerscheid, canolfan hyrwyddo cynhyrchion rhanbarthol, gyda bragdy bychan, bwyta a chaffi, siop ranbarthol ac ystafelloedd gwesteion. Yn y Cornelyshaff, mae'r "Ourdaller Maart" (Marchnad Ourdaller) yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn olaf pob mis rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd. Mae'r farchnad hon yn gyfle gwych i ddod i gysylltiad â chynhyrchwyr cynhyrchion arbennig y rhanbarth.

Mae Parc Naturiol Our hefyd yn adnabyddus am ei gestyll. Yn Vianden, mae castell mwyaf trawiadol Lwcsembwrg yn arglwyddiaethu uwchben dyffryn Our. Un o brif atyniadau dinas swynol Clervaux yw ei gastell, sy'n gartref i'r casgliad unigryw o luniau "The Family of Man", oherwydd Edward John Steichen, y ffotograffydd Americanaidd oedd â'i wreiddiau yn Lwcsembwrg.

Yn fframwaith y Parc Naturiol, nid yw natur a thechnoleg yn annibynnol ar ei gilydd. I'r gwrthwyneb: Nepell o Vianden, mae dwr arglawdd Our yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan. Dewch i ymweld â gorsaf trydan dwr yr SEO, ewch i gerdded yn ymyl tyrbinau gwynt yn Heinerscheid neu ddarganfod gosodiadau biomethanation sy'n cynhyrchu ynni o fiomas amaethyddol.

www.naturpark-our.lu