|
Project partners
Cadwyn Clwyd - Wales (UK)
Cadwyn Clwyd
Cadwyn Clwyd is a LEADER+ local action group operating in Flintshire and Denbighshire Local Authority areas in Wales (UK). Under this transnational project Cadwyn Clwyd is developing a branded approach for rural activities and holidays within the Clwydian Range Area of Outstanding Natural Beauty.
The Clwydian Range lies 15 miles west of Chester in the Welsh Borderlands. From the coastal hills above Prestatyn to the purple heather-clad peaks to the south, the Range forms a 21 mile chain of hills rising dramatically from the Vale of Clwyd. To the east and north of the main ridge lie the wooded limestone valleys and gorges of the Rivers Alyn and Wheeler with their impressive outcrops and crags. The Offa’s Dyke National Trail and Moel Famau Country Park are the best places to view the Range and the panoramic views across two countries and 11 counties that it offers.
The Clwydian Range offers excellent walking opportunities beyond the national trail and it is easy to explore the wooded limestone valleys or the high moorland slopes. Dotted throughout the landscape are a reminder of our past with a wealth of Iron Age Hillforts medieval farmsteads and industrial archaeology from the 18th and 19th century.
The Clwydian Range also provides spectacular and exhilarating mountain biking with a range of breath taking trails for the adrenaline seeker or the family cyclist.
The towns of Ruthin, Denbigh, St. Asaph and Mold serve the Clwydian Range Area of Outstanding Natural Beauty. Ruthin is a picturesque town with its red stone castle and quaint shops. Denbigh, a historic market town, boasts one of the largest Edwardian Castles in Wales. The smallest cathedral in Wales is located in the town of St.Asaph. The market in Mold is renowned throughout the region for its variety and character.
Mae Cadwyn Clwyd yn grŵp gweithredu lleol o dan y rhaglen LEADER+ ac mae’n gweithredu yn ardaloedd Cynghorau Sir Fflint a Dinbych yng Nghymru (DU). Mae Cadwyn Clwyd yn datblygu’r prosiect trawsgenedlaethol hwn fel menter i frandio gweithgareddau a gwyliau gwledig o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd.
Lleolir Bryniau Clwyd tua phymtheg milltir i’r gorllewin o dref Caer yng Ngororau Cymru. O’r bryniau arfordirol uwchben Prestatyn i’r copaon piws wedi eu gorchuddio â grug yn y de, mae Bryniau Clwyd yn creu cadwyn 21 milltir drwy Ddyffryn Clwyd. Yn gorwedd i’r dwyrain ac i’r gogledd o’r brif grib mae dyffrynoedd carreg galch coediog a cheunentydd afonydd Alyn a Chwiler gyda’u creigiau a cherrig brig trawiadol. Y mannau gorau i weld Bryniau Clwyd a’r golygfeydd panoramig dros ddwy wlad ac unarddeg sir mae’n ei gynnig yw Parc Gwledig Moel Famau ac oddi ar Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.
Mae Bryniau Clwyd yn cynnig cyfleoedd ardderchog i gerddwyr tu hwnt i’r Llwybrau Cenedlaethol a thasg gymhedrol hawdd yw archwilio’r dyffrynoedd carreg galch coediog neu’r llethrau rhosdir uchel. Yma ac acw drwy’r dirwedd ceir caerau oes yr haearn, ffermydd canoloesol ac archaeoleg ddiwydiannol yn dyddio o’r 18fed a’r 19eg ganrif.
Mae Bryniau Clwyd yn darparu cyfle gwych i feicio mynydd gyda nifer o wahanol lwybrau syfrdanol ar gyfer y person sy’n chwilio am adrenalin neu ar gyfer y beiciwr teulu.
Mae trefi Rhuthun, Dinbych, Llanelwy a’r Wyddgrug yn gwasanaethu Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd. Mae Rhuthun yn dref pictiwrésg gyda’i gastell carreg goch a siopau hynod. Tref farchnad hanesyddol yw Dinbych sy’n brolio un o’r cestyll Edwardaidd hynaf yng Nghymru. Gwelir Cadeirlan leiaf Cymru yn Llanelwy. Mae tref farchnad Yr Wyddgrug yn enwog drwy’r ardal am y cymeriad arbennig sydd i’r farchnad a’r amrywiaeth a geir yno.
|